/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Logan Mwangi: 'Cyfle wedi ei golli i'w ddiogelu'

  • Cyhoeddwyd
Logan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan Mwangi ei ladd ddiwedd Gorffennaf y llynedd

Methodd bwrdd iechyd a rhannu gwybodaeth am anafiadau blaenorol a ddioddefodd bachgen pum mlwydd oed cyn ei lofruddiaeth.

Dyna gasgliad adolygiad ymarfer plant i lofruddiaeth Logan Mwangi yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Pan aeth ei fam â Logan i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Awst 2020 ar ôl iddo dorri ei fraich, fe sylwodd pediatregydd ar gyfres o gleisiau ac anafiadau eraill.

Does dim tystiolaeth bod gwybodaeth am yr anafiadau yma wedi ei rannu gydag asiantaethau tu allan i'r bwrdd iechyd.

Yn ôl yr adolygiad ni chafodd anafiadau a welwyd ar Logan Mwangi eu rhannu â "gwasanaethau a allai fod wedi cymryd camau priodol i'w ddiogelu".

31 o luniau

Yn Llys y Goron Caerdydd ym Mehefin, cafwyd ei fam, Angharad Williamson, ei lystad, John Cole a'i lysfrawd 13 oed, Craig Mulligan, yn euog o lofruddio Logan.

Cafodd ei gorff ei adael fel sbwriel ger Afon Ogwr ddiwedd Gorffennaf y llynedd.

Cafodd 31 o luniau o anafiadau Logan ym mis Awst 2020 eu tynnu gan yr ysbyty.

Roedd cleisiau uwchben ei bidyn, i'w dalcen a'i glustiau yn eu plith.

Mae'r adolygiad yn nodi y "dylai nifer o'r anafiadau, hyd yn oed ar eu pen eu hunain, fod wedi sbarduno atgyfeiriad".

Mae'n nodi'n glir "pe bai gweithwyr iechyd proffesiynol yn ystyried bod yr anafiadau ddim yn ddamweiniol, dylai fod ystyriaethau clir i nifer yr anafiadau a'r safle ar y corff, goruchwyliaeth rhieni... a oedd angen cymorth asiantaethau ehangach">