Teulu Gareth Miles yn cefnogi'r galw am ofal diwedd oes yn y cartref

Bu Mr Miles yn athro Saesneg a Ffrangeg mewn ysgolion yn Amlwch, Wrecsam a Dyffryn Nantlle cyn dod yn drefnydd cenedlaethol Undeb UCAC
- Cyhoeddwyd
Roedd Gareth Miles yn yr union le roedd yn dymuno bod pan ddaeth ei fywyd i ben yn 2023 - yn ei gartref gyda'i deulu yn dilyn wythnosau yn yr ysbyty.
"Pan oedden ni'n sylweddoli mai ychydig o amser oedd ganddo fe ar ôl, mi 'naethon ni ofyn iddo fe gael dod adref," meddai ei ferch, Eiry Miles.
Mae ei deulu bellach yn cefnogi elusen Marie Curie wrth iddyn nhw alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bawb fynediad at y fath o ofal lliniarol y maen nhw'n dymuno ei gael.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mwy na £16m yn cael ei wario ar ofal diwedd oes yn flynyddol i sicrhau bod cleifion yn cael gofal o'r ansawdd orau.
Roedd Gareth Miles yn awdur ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Yn ôl elusen Marie Curie yng Nghymru, mae bron i 20% o welyau ysbytai Cymru yn cael eu defnyddio gan bobl sydd yn eu 12 mis olaf o fywyd.
Er mai ysbyty yw'r lle gorau i nifer o gleifion, mae'r elusen yn pwysleisio bod angen cael sgyrsiau gyda'r claf am eu hamgylchiadau personol.
Un oedd eisiau marw adref oedd yr athro Gareth Miles.
"Roedd wythnosau olaf dad yn yr ysbyty yn anodd, anodd ofnadwy," meddai Eiry, wrth edrych yn ôl ar brofiad ei thad dair blynedd yn ôl.
'Mi oedd e yn y lle anghywir'
Mi oedd Gareth Miles, yr awdur a chyn-athro, yn byw gyda chyflwr Parkinson's pan gafodd Covid a strôc effaith sylweddol ar ei iechyd.
Yn 2023 fe dreuliodd gyfnod hir ar ward ar ôl dioddef gyda chyflyrau megis haint dŵr a niwmonia.
"O'dd 'na staff hyfryd iawn yn gweithio ar y ward, 'oedden nhw'n garedig iawn gyda ni, ond mi oedd e [Dad] yn y lle anghywir," meddai Eiry.
"O'dd e'n gyfnod anodd iawn iawn ac o'dd fy nhad yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn yr ysbyty."
Roedd Eiry a'i dwy chwaer, Branwen ac Elen, wedi erfyn ar yr awdurdodau i adael i Gareth ddychwelyd i'w gartref i fod gyda'i wraig, Gina yn ei ddyddiau olaf.
"Pan 'oedden ni'n sylweddoli bod bywyd Dad yn dirwyn i ben, 'oedden ni eisiau sgyrsiau gyda Dad, sgyrsiau tawel, eisiau mynegi ein teimladau, mynegi ein cariad tuag ato."
Yn ôl y teulu, mi oedd gweithiwr cymdeithasol "gwych" yn yr ysbyty oedd yn gweld hefyd y byddai'n llawer gwell i Mr Miles fod adref.

Bu farw Mr Miles yn 85 oed, bum mlynedd ar ôl cael diagnosis Parkinson's
Er i bawb gytuno mai gartref oedd y lle gorau i Mr Miles, mi oedd diffyg gofalwyr yn golygu nad oedd modd ei symud o'r ysbyty.
"Doedd dim gofalwyr ar gael," meddai Eiry, "fe wnaeth y sefyllfa yma ddangos yn hollol glir bo' 'na ddim ddigon o ofalwyr, bod y proffesiwn ddim yn cael ei ariannu'n ddigonol".
Gyda chymorth elusen Marie Curie, mi oedd Mr Miles wedi gallu dychwelyd i'w gartref yn Sir Gâr.
"Mi oedd y dyddiau hynny yn amhrisiadwy," ychwanegodd Eiry.
"Pan ddaeth Dad adref o'dd newid ynddo fe'n syth, teimlad heddychlon."
Bu farw Gareth Miles yn 85 oed, bedwar diwrnod ar ôl cael dychwelyd adref.
- Cyhoeddwyd6 Medi 2023
- Cyhoeddwyd27 Mai
Yn ôl elusen Marie Curie yng Nghymru, mae'r system bresennol "dan bwysau difrifol" sy'n "golygu bod gormod o bobl yn treulio eu dyddiau olaf ar eu pen eu hunain".
"Mae trawsnewid gofal diwedd oes yn sicrhau y gall pobl gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt, yn y lle iawn ar yr amser iawn," meddai Natasha Davies o'r elusen.
"Mae'n golygu cael y pethau sylfaenol yn iawn i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb; trwy ddeall beth yw'r bylchau mewn gofal fel bod gwasanaethau'n darparu gofal amserol, personol ac o ansawdd uchel i bawb yng Nghymru, dim ots pwy ydynt na ble maent yn byw.
"Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ddangos arweinyddiaeth gref ac ymrwymo i'r camau beiddgar, radical sydd eu hangen i drawsnewid gofal diwedd oes yn wirioneddol."
'Gwneud gwahaniaeth enfawr'
Dywed Llywodraeth Cymru: "Gall gofal lliniarol a diwedd oes da wneud gwahaniaeth enfawr i'r rhai â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, gan eu helpu i farw ag urddas, a helpu'r broses alaru i'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl.
"Rydym yn darparu mwy na £16m y flwyddyn i wneud yn siŵr bod gan bawb fynediad at y gofal diwedd oes orau posibl.
"Mae hyn yn cynnwys gosod safonau cenedlaethol, hybu gwasanaethau cymunedol a sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
"Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth data misol, i wella'r broses o ryddhau cleifion yn ddiogel o'r ysbyty. Mae hyn yr un mor berthnasol i bobl sydd angen gofal diwedd oes."