Dawnsio gyda Bruce Springsteen oedd 'y profiad mwyaf anhygoel'

Haydn a Bruce Springsteen
- Cyhoeddwyd
Mi fyddai dawnsio ar y llwyfan gyda Bruce Springsteen yn freuddwyd i'w filiynau o ffans ar draws y byd.
Ac i un ffan ifanc o Ddinas Powys daeth y freuddwyd yna'n wir yn 2016 pan estynnodd y canwr byd-enwog o America ei law iddo a'i dynnu i'r llwyfan mewn gig yn Coventry.
Bu Haydn Craven, sy' erbyn hyn yn 18 oed, yn trafod y profiad bythgofiadwy hynny o ganu gyda'r Boss ar Dros Frecwast ar Radio Cymru.
Meddai: "Oedd e jest y profiad mwyaf ffantastig. Fel rhywun naw mlwydd oed o flaen 40,000 o bobl gyda Bruce Springsteen – oedd e y profiad mwyaf anhygoel.
"Dwi jest yn cofio bod ar ysgwyddau Mam. A dwi'n cofio Bruce yn dod o gwmpas ac mae'n dod yn agosach a agosach. A dwi ddim yn gyffrous. Dwi'n fwy nerfus yn gweld e'n dod yn agos achos mae gyda hanes o ganu gyda pobl ar y llwyfan.
"Felly mae'n dod rownd a dwi ar ysgwyddau Mam. Ac mae'n estyn mas a dwi'n meddwl ei fod yn mynd i rufflo gwallt fi neu rhywbeth. Ac yna mae Mam yn lansio fi ar y llwyfan so s'dim lot o ddewis gyda Bruce!
"Ond wedyn jest edrych mas ac mae 'na 40,000 o bobl. Mae'n anodd disgrifio."

Haydn a'i rieni yn y gyngerdd
Yn ffodus roedd Haydn yn gwybod y geiriau i Hungry Heart ac yn gallu canu gyda'r seren sy'n cael ei adnabod fel The Boss. Mae fideo o'i brofiad i'w weld ar raglen ddogfen When Bruce Springsteen came to Britain ar BBC2 ar nos Sadwrn 31 Mai sy'n dathlu hanner can mlynedd ers i Bruce Springsteen berfformio ei gyngerdd cyntaf ym Mhrydain.
Ac mae'r teulu'n edrych ymlaen i'w wylio, fel mae Haydn yn esbonio: "Mae'n lyfli. Mae'n rili neis i gael gwybod bod ni'n ran o hanes Bruce o'r pryd. Bydd hwn yn cael ei ddangos a ni'n gallu ddweud stori ni am sut mae Bruce wedi cael gymaint o effaith arno ni."

Dan ddylanwad ei dad, sy' wedi gweld Springsteen yn perfformio'n fyw tua 15 o weithiau, mi wnaeth mam Haydn hefyd ddechrau dilyn y canwr gan basio'r angerdd am ei waith ymlaen at Haydn, sy'n dweud: "Mae Dad wedi bod yn ffan ers y 1980au ac wedi gweld y Born in the USA tour.
"Doedd ddim lot o ddewis gyda fi ond nawr fi yn ffan fy hun.
"Dwi wedi gweld e pump gwaith - dwy waith yng Nghaerdydd. Chwe mlwydd oed oedd y tro cyntaf i fi weld e."
Mi oedd y profiad yn Coventry yn flas cyntaf ar berfformio ar lwyfan i Haydn, sy' erbyn hyn yn astudio Lefel A mewn Drama ac wedi ymddangos mewn rhaglenni gan gynnwys Amser Maith yn Ôl ar S4C a Jamie Johnson ar y BBC.
Ac mae'n gobeithio ceith gyfle i weld The Boss eto, efallai yn America: "Byddwn i'n dwlu gweld Bruce yn rhywle arall."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd27 Mai